Cod Ymarfer ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o dan Ran 8 (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

 

Cyflwynwyd dan adran 145 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

 

(Teitl byr: Cod Ymarfer ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

 

Cynnwys:

                                                                                       

Pennod

Rhagymadrodd

 

1.    Cyflwyniad

·         Cyd-destun

·         Pwrpas

 

2.    Dull llywodraethu ac atebolrwydd cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol

·         Swyddogaeth yn strwythur gweithredol yr awdurdod lleol

·         Cydberthnasau â’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig ac uwch-swyddogion eraill

·         Penaethiaid gwasanaeth

·         Atebolrwydd y cyfarwyddwr

·         Arolygiaethau a rheoleiddwyr

 

3.    Swyddogaethau penodol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

·         Llesiant a dyletswyddau hollgyffredinol

·         Cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ac mewn modd integredig

·         Dull ataliol o ymdrin ag anghenion o ran gofal a chymorth

·         Ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau

·         Diogelu

·         Plant a’u teuluoedd

 

4.    Datblygu’r gweithlu

 

5.    Adroddiad blynyddol

 

6.    Cymwyseddau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol

 

Atodiad 1: Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol

 

Atodiad 2: Safonau Ansawdd mewn perthynas â mesur swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhagymadrodd

 

1.            Caiff y cod ymarfer hwn ei gyflwyno dan adran 145 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

 

2.            Cafodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014. Daw’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2016.

 

3.            Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael ar: www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/enacted

 

4.            Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu’n unol â’r gofynion sydd yn y cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion sydd yn y cod hwn. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a nodir yma.

 

5.            Yn y cod hwn caiff gofyniad ei fynegi fel rhywbeth y mae’n “rhaid” ei wneud neu y mae’n “rhaid peidio” â’i wneud. Caiff canllawiau eu mynegi fel rhywbeth y “caniateir/ceir/mae’n bosibl” ei wneud neu y “dylid/na ddylid” ei wneud.

 

6.            Dylid darllen y cod hwn ar y cyd â’r holl godau ymarfer a gyflwynwyd dan y Ddeddf.

 

7.            Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynorthwyo’r gwaith gweithredu drwy broses sy’n cynnwys ein rhanddeiliaid yn llawn. Elfen ganolog o’r dull gweithredu hwnnw yn achos y cod hwn oedd sefydlu grŵp cyfeirio a oedd yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr â’r arbenigedd perthnasol, y wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl a oedd yn angenrheidiol i ddatblygu’r cod ymarfer, a fydd yn ei dro yn cyflawni’r dyheadau polisi sy’n sail i’r Ddeddf.

 


 

Pennod 1: Cyflwyniad

 

Cyd-destun

 

8.            Mae adran 144 y Ddeddf yn cadarnhau’r gofyniad bod yn rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae Atodlen 2 y Ddeddf yn cynnwys y tabl o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, fel yr oeddent ym mis Chwefror 2016, ac mae’r tabl wedi’i atgynhyrchu yn Atodiad 1.

 

9.            Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y cymwyseddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau hynny mewn cod ymarfer a gyflwynir dan adran 145 y Ddeddf neu mewn rheoliadau. Mae’r cod ymarfer hwn yn cyflawni’r gofyniad hwnnw drwy nodi ym mhennod 6 y cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

 

10.         Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol benodi un person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, os ydynt o’r farn y gall y person hwnnw gyflawni swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn effeithlon ar gyfer y ddau awdurdod neu ar gyfer pob un ohonynt.  

 

11.         Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi penodi cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd, sicrhau bod staff digonol yn cael eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo’r cyfarwyddwr.

 

12.         Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio codau ymarfer yng nghyswllt amryw Rannau o’r Ddeddf. Mae’r cod ymarfer hwn yn ceisio adeiladu ar y codau eraill hynny er mwyn egluro swyddogaeth y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o ran arweinyddiaeth strategol.  

 

Pwrpas

 

13.         Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn elfen greiddiol o fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac maent yn cynorthwyo pobl yn ystod cyfnodau anodd yn ogystal ag yn y tymor hir. Caiff llawer o’r gwasanaethau hyn eu darparu mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys gwasanaethau tai, iechyd ac addysg. Mae disgwyliadau’r cyhoedd ynghylch gofal a chymorth wedi newid o ganlyniad i newid demograffig a newidiadau yn ein cymdeithas, a bydd hynny’n parhau. Yn ogystal, mae’r galw yn cynyddu ar draws gwasanaethau cymdeithasol ond mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, serch hynny, yn heriol. 

 

14.         Mae’r Ddeddf yn cyflwyno’r fframwaith deddfwriaethol i gynorthwyo’r gwaith o drawsnewid y modd y caiff anghenion pobl o ran gofal a chymorth eu diwallu ac i wneud gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy. Mae nifer o themâu allweddol yn sail i’r Ddeddf. Mae’r themâu hynny fel a ganlyn:

 

Ffocws ar bobl – sicrhau bod pobl yn gallu mynegi eu barn a bod ganddynt reolaeth ar y gofal a’r cymorth a gânt, er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt ac er mwyn sicrhau hefyd bod gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u datblygu o amgylch pobl.

 

Llesiant – mesur llwyddiant o safbwynt canlyniadau i bobl yn hytrach na phroses.

 

Atal ac ymyrryd yn gynnar – sicrhau bod gwaith atal ac ymyrryd yn gynnar yn digwydd er mwyn lleihau’r graddau y mae angen yn gwaethygu a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau statudol.

 

Partneriaeth ac integreiddio – pob asiantaeth a sefydliad, gan gynnwys ym maes iechyd, yn cydweithredu ac yn gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion pobl yn y ffordd orau posibl.

 

Hygyrchedd– gwella’r wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i bobl a sicrhau bod pawb, ni waeth beth fo’u hanghenion, yn gallu cael gafael ar y wybodaeth honno.

 

Modelau gwasanaeth newydd – datblygu modelau newydd ac arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau, yn enwedig modelau sy’n cynnwys y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain.

 

15.         Mae swyddogaeth y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn hanfodol o safbwynt darparu’r arweinyddiaeth strategol sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yn effeithiol ac yn unol ag egwyddorion y Ddeddf. Gwasanaethau effeithiol yw’r gwasanaethau hynny sy’n hyrwyddo’r canlyniadau llesiant a ddisgrifir yn y datganiad llesiant, a gyflwynir dan adran 8 y Ddeddf. 

 

16.         Bydd y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn atebol hefyd am ansawdd gwasanaethau a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau at ddibenion cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith. Bydd y cyfarwyddwr yn chwarae rhan hollbwysig o safbwynt sicrhau’r gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol hanfodol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Bydd yn rheoli gwasanaethau a pherfformiad yn effeithiol ac yn darparu ymdeimlad clir o gyfeiriad strategol ynghyd ag arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer staff a gwasanaethau; bydd yn meithrin cydberthnasau cydweithio effeithiol oddi mewn i’r awdurdod lleol a’r tu allan iddo, gan gynnwys trefniadau integredig ffurfiol gyda byrddau iechyd; a bydd yn hybu’r gwaith o gyflawni canlyniadau gwell i bobl. 


 

Pennod 2: Dull llywodraethu ac atebolrwydd cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol

 

Swyddogaeth yn strwythur gweithredol yr awdurdod lleol

 

17.         Rhaid bod gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol statws digon uchel i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod a chyflawni ei atebolrwydd. Rhaid bod cynghorwyr a swyddogion perthnasol yn deall y lefel hon o awdurdod yn dda.

 

18.         Ni waeth beth fo’r trefniadau strwythurol gweithredol a gyflwynwyd gan awdurdod lleol, rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol fod yn aelod o’r tîm rheoli corfforaethol bob amser a rhaid bod ganddo gyswllt uniongyrchol â’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig a chynghorwyr a’i fod yn adrodd yn uniongyrchol wrthynt.

 

19.         Aelodaeth o’r tîm rheoli corfforaethol yw’r system ffurfiol sy’n galluogi’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i gyfrannu at weledigaeth y cyngor a’r cyfeiriad y mae’r cyngor yn mynd iddo a sicrhau bod gwasanaethau’n ceisio hyrwyddo llesiant pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth. 

 

Cydberthnasau â’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig ac uwch-swyddogion eraill

 

20.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol adrodd yn uniongyrchol wrth y pennaeth gwasanaeth cyflogedig. Nid y pennaeth gwasanaeth cyflogedig sy’n penodi’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ond mae’n debyg y bydd yn chwarae rhan yn y broses. 

 

21.         Rhaid i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig sicrhau ei fod yn goruchwylio trefniadau’n fanwl bob amser a sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gorfforaethol. Mae gan y pennaeth gwasanaeth cyflogedig swyddogaeth allweddol o safbwynt galluogi’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, a rhaid iddo sicrhau bod seilwaith corfforaethol yn cynorthwyo’r cyfarwyddwr i gyflawni ei atebolrwydd statudol. 

 

22.         Rhaid cytuno’n iawn ar y berthynas rhwng y pennaeth gwasanaeth cyflogedig a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a rhaid iddi gael ei chyfleu’n briodol i gynghorwyr, swyddogion a phartneriaid. Rhaid i hynny gael ei ategu mewn dogfennau llywodraethu a dirprwyo a ddylai gael eu hadolygu’n rheolaidd. 

 

23.         Rhaid i drefniadau atebolrwydd a llywodraethu alluogi’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig i ganfod unrhyw fethiant systemig a pharhaus yng nghyswllt safonau ac ansawdd gwasanaethau gofal a chymorth, a’i alluogi i sicrhau bod y methiant hwnnw’n cael ei gywiro.

 

24.         Fel aelod o’r tîm rheoli corfforaethol, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ystyried goblygiadau cyffredinol o ran adnoddau, gan gynnwys materion cyllidebol. Mae’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau bod cynghorwyr yn cael cyngor clir ynghylch lefel yr adnoddau sy’n ofynnol er mwyn i awdurdod lleol allu cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn effeithiol.    

 

25.         Yn ogystal, rhaid i drefniadau gweithio a ddiffiniwyd fod ar waith rhwng y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac uwch-swyddogion eraill yn yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod atebolrwydd y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei gyflawni. Yn ogystal, dylai unrhyw achosion o rannu’r cyfrifoldebau hynny gael eu trafod yn fanwl a’u cyfleu’n glir.

 

26.         Rhaid i effeithiolrwydd y trefniadau a ddiffiniwyd, o safbwynt cynorthwyo i gyflawni swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, gael ei werthuso’n rheolaidd.

 

27.         Caniateir i’r unigolyn a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ymgymryd â swyddogaethau eraill ar yr un pryd yn yr awdurdod lleol, gan gynnwys swyddogaeth y cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer plant a phobl ifanc. (Ceir cyfeiriadau pellach at y berthynas rhwng y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a’r cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc, os caiff y swyddogaethau hynny eu dal ar wahân, ym mharagraffau 50 i 52.) Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon nad yw cyfrifoldebau ychwanegol yn effeithio’n andwyol ar allu unigolyn i gyflawni swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

 

Penaethiaid gwasanaeth

 

28.         Rhaid bod trefniadau atebolrwydd cywir ar waith ar gyfer holl staff gwasanaethau cymdeithasol, p’un a ydynt yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ai peidio. O fewn ffiniau’r awdurdod lleol, caiff cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol geisio strwythuro adrannau gwasanaethau cymdeithasol mewn modd sy’n golygu bod pobl eraill yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau. Er y caniateir i’r cyfrifoldeb am gyflawni rhai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gael ei drosglwyddo, er enghraifft, i benaethiaid gwasanaethau oedolion a phenaethiaid gwasanaethau plant a theuluoedd, bydd y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn parhau’n atebol am y swyddogaethau hynny. 

 

29.         Os nad y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yw rheolwr llinell uniongyrchol y sawl sy’n gyfrifol am ddarparu unrhyw elfen o wasanaethau cymdeithasol, rhaid sicrhau o hyd bod cyswllt rheolaidd rhwng y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a’r pennaeth gwasanaeth dan sylw. Rhaid i ddogfennau fframwaith ysgrifenedig nodi’n glir sut y mae cyfrifoldebau wedi’u cyflwyno i sicrhau bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyflawni’n effeithiol.

 

Atebolrwydd y cyfarwyddwr

 

30.         Mae’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn atebol i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig, a thrwyddo ef i’r cyngor, am gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn effeithiol. Rhaid i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gael amser cyfarfod rheolaidd yn rhan o’u perthynas atebolrwydd.

 

31.         Os caiff gwasanaethau eu darparu mewn partneriaeth, y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sy’n atebol o hyd am gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

32.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol godi ymwybyddiaeth o’i swyddogaeth ymysg cynghorwyr. Mae hynny’n cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut y gall cynghorwyr, gan gynnwys pwyllgorau craffu a’r aelodau arweiniol perthnasol, gynorthwyo’r swyddogaeth a dwyn deiliaid swyddi i gyfrif, gan gynnwys yng nghyswllt llunio’r adroddiad blynyddol fel y nodir ym mhennod 5. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau y ceir ymrwymiadau clir sy’n nodi pa wybodaeth y dylai cynghorwyr ddisgwyl ei chael ynghylch y modd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol penodol eu cyflawni ac ynghylch gweithgareddau ehangach i hyrwyddo llesiant pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth.

 

33.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol:

·         sicrhau bod y pennaeth gwasanaeth cyflogedig, y tîm gweithredol a chynghorwyr yn gallu cael y cyngor a’r wybodaeth broffesiynol orau, ddiweddaraf am bob agwedd ar wasanaethau gofal a chymorth;

 

·         rhoi sicrwydd i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig a chynghorwyr bod swyddogaethau statudol a bennwyd i’r awdurdod wedi’u cyflawni, a bod gwybodaeth reoli briodol a chofnodion cywir yn cael eu cadw;

 

·         sicrhau bod prosesau effeithiol ar waith ar gyfer rheoli perfformiad;

 

·         adnabod blaenoriaethau, heriau a risgiau ar draws pob agwedd ar wasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys meysydd lle ceir cyd-ddibyniaeth rhwng asiantaethau ac amgylchiadau lle mae problemau staffio’n effeithio ar allu’r cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, a chynghori cynghorwyr yn eu cylch;

 

·         briffio’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig a chynghorwyr ynghylch achosion â phroffil uchel a materion eraill sy’n debygol o beri pryder i’r cyhoedd;

 

·         cynghori cynghorwyr ynghylch strategaethau ar gyfer gwella dulliau o ymyrryd, darparu gwasanaethau, ymarfer a defnyddio adnoddau.

 

34.         Mae pennod 3 yn egluro swyddogaeth y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o safbwynt gweithio mewn partneriaeth drwy’r byrddau partneriaeth rhanbarthol a’r Byrddau Diogelu.

 

Arolygiaethau a rheoleiddwyr

 

35.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol arwain a chynorthwyo gwaith ymgysylltu a chydweithredu parhaus ag arolygiaethau a rheoleiddwyr gan bob un o swyddogion yr awdurdod lleol yng nghyswllt paratoi a chynnal unrhyw adolygiadau o berfformiad swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, ac unrhyw wasanaethau gofal a chymorth eraill a ddarperir yn ardal yr awdurdod lleol. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod arolygiaethau a rheoleiddwyr yn cael yr holl wybodaeth berthnasol.

 

36.         Yn rhan o’i atebolrwydd, rhaid i’r cyfarwyddwr adrodd wrth y cyngor ynghylch manylion unrhyw adroddiad arolygu neu reoleiddio ar berfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Rhaid bod hynny’n cynnwys egluro pa gamau gweithredu priodol a gymerir, mewn ymateb i’r adroddiad, er mwyn gwella gwasanaethau sy’n hyrwyddo llesiant pobl ag anghenion o ran gofal a chymorth neu er mwyn atal anghenion o’r fath rhag datblygu neu arafu’r graddau y maent yn datblygu. Yn ogystal, dylai’r cyfarwyddwr gyfrannu at y trefniadau llywodraethu cyffredinol sydd gan yr awdurdod lleol (a’i bartneriaid).

Pennod 3: Swyddogaethau penodol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Llesiant a dyletswyddau hollgyffredinol

 

37.         Mae adran 5 y Ddeddf yn mynnu bod yn rhaid i bob person geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, wrth arfer eu swyddogaethau dan y Ddeddf. 

 

38.         Mae’r dyletswyddau hollgyffredinol eraill a nodir yn adran 6 yn mynnu bod yn rhaid i bob person sy’n arfer swyddogaethau dan y Ddeddf ystyried barn, dymuniadau, teimladau, nodweddion, diwylliant a chredoau unigolyn. Yn ogystal, rhaid iddynt hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn a’i gynorthwyo i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno. Mae hynny’n golygu cynorthwyo a grymuso’r unigolyn i leisio barn drosto’i hun neu gael rhywun a all wneud hynny ar ei ran.

 

39.         O safbwynt oedolion, rhaid i bersonau ddechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu ei lesiant ei hun, a rhaid iddynt hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pryd bynnag y bo’n bosibl. Rhaid i hynny gael ei ymgorffori mewn ymarfer er mwyn i bobl fod yn bartneriaid cyfartal wrth i’w gofal gael ei ddylunio a’i ddarparu. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried barn, dymuniadau a theimladau pobl wrth eu hadnabod, eu hasesu a’u cynorthwyo i sicrhau llesiant.

 

40.         O safbwynt plant, rhaid i bersonau hyrwyddo magwraeth y plentyn yn ei deulu, i’r graddau y mae gwneud hynny’n gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried barn, dymuniadau a theimladau personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyndan 16 oed, i’r graddau y mae gwneud hynny’n gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn ac i’r graddau y mae gwneud hynny’n rhesymol ymarferol.

 

41.         Mae adran 7 yn mynnu bod yn rhaid i bob person sy’n arfer swyddogaethau dan y Ddeddf roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r cod ymarfer a gyflwynwyd dan Ran 2 y Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yng nghyswllt pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.

 

42.         Mae’r cod ymarfer ar gyfer Rhan 2 y Ddeddf yn nodi’r manylion ynghylch dyletswyddau i hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a dyletswyddau hollgyffredinol eraill:

 

http://llyw.cymru/docs/dhss/publications/151218part2cy.pdf

 

43.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ystyried y ddyletswydd llesiant a dyletswyddau hollgyffredinol eraill sy’n ymwneud â’r modd y mae’r awdurdod lleol yn arfer pob un o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ddangos arweinyddiaeth strategol o safbwynt sicrhau bod yr holl wasanaethau gofal a chymorth a ddarperir yn ardal yr awdurdod lleol yn ceisio hyrwyddo llesiant pawb sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth. Mae hynny’n cynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am ddiwallu’r anghenion o ran gofal a chymorth a nodwyd ar gyfer dinasyddion byddarddall. Bydd hynny’n golygu sicrhau bod yr holl wasanaethau gofal a chymorth yn gweithio gyda phobl i’w grymuso i gyfrannu at sicrhau eu llesiant eu hunain gyda’r lefel briodol o gymorth a gwasanaethau. Rhaid i’r cymorth gael ei ddarparu’n unol â’r chwe safon ansawdd a ddisgrifir yn y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyflwynwyd dan y Ddeddf. Caiff y safonau hynny eu nodi yn Atodiad 2. Mae’r safonau ansawdd yn disgrifio’r gweithgareddau awdurdodau lleol sy’n cyfrannu at gyflawni canlyniadau llesiant fel y nodir yn y datganiad llesiant.

 

Cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ac mewn modd integredig

 

44.         Yn aml, bydd gwella llesiant pobl ag anghenion o ran gofal a chymorth, ac atal anghenion o ran gofal a chymorth rhag datblygu neu leihau’r graddau y maent yn datblygu, yn gofyn am wasanaethau sydd y tu hwnt i’r rhai a ddarperir yn draddodiadol gan wasanaethau cymdeithasol. Yn aml, bydd angen dull gweithredu sy’n cynnwys gwasanaethau ar draws yr awdurdod lleol a gwasanaethau gan bartneriaid perthnasol eraill. 

 

45.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol arwain y gwaith o ddatblygu trefniadau effeithiol, gan gynnwys ar lefel partneriaeth ranbarthol, er mwyn hyrwyddo cydweithredu i gyflawni’r dibenion canlynol:

 

a) gwella llesiant pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr y mae arnynt angen cymorth;

b) gwella ansawdd gofal a chymorth i bobl, gan gynnwys cymorth i ofalwyr;

c) gwarchod oedolion ag anghenion o ran gofal a chymorth, sydd mewn perygl neu sy’n cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso;

ch) gwarchod plant sydd mewn perygl neu sy’n cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso.

 

46.         Dylai’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod unrhyw broblemau’n ymwneud â chydweithredu rhwng asiantaethau ac unrhyw fylchau rhwng gwasanaethau’n cael eu hadnabod ac yn cael sylw. Er mai’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sy’n gyfrifol am ddatblygu trefniadau effeithiol ar gyfer cydweithredu er mwyn gwella llesiant pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth, nid yw hynny’n caniatáu i bartneriaid eraill ddileu eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau.

 

47.         Dylai’r ffaith bod y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn aelod o’r tîm rheoli corfforaethol ynghyd â’r trefniadau atebolrwydd a ddiffiniwyd gydag uwch-swyddogion eraill, fel y nodir ym mhennod 2, gael eu defnyddio i hyrwyddo cydweithredu yn yr awdurdod lleol. Bydd hynny’n golygu sicrhau bod pob un o wasanaethau’r awdurdod lleol ar y cyd yn ceisio cyflawni’r dibenion uchod.

 

48.         Yn yr un modd, rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol geisio datblygu amgylchedd effeithiol ar gyfer hyrwyddo cydweithredu â phartneriaid allanol, gan gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol, y trydydd sector a’r sector annibynnol, yng nghyswllt pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth. Mae paragraffau 53 i 57 yn nodi swyddogaeth y cyfarwyddwr o safbwynt y trefniadau partneriaeth ffurfiol y darperir ar eu cyfer gan Ran 9 y Ddeddf, y gellir ei defnyddio at y diben hwnnw.

 

Swyddogaeth y cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc

 

49.         Mae adran 27 Deddf Plant 2004 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn penodi cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc er mwyn cydgysylltu a goruchwylio trefniadau i wella llesiant plant yn ardal yr awdurdod lleol. Diben y swyddogaeth hon yw hyrwyddo hawliau plant, a gellir ei chysylltu ag unrhyw gyfarwyddwr priodol yn y tîm rheoli corfforaethol, gan gynnwys y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

 

50.         Mewn awdurdodau lle caiff swydd y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a swydd y cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc eu dal ar wahân, bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddwy swyddogaeth. Bydd y cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pob plentyn o ran llesiant. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ganolbwyntio ar wella llesiant plant sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth yn benodol a chanolbwyntio ar warchod plant rhag niwed.  

 

51.         Rhaid i unigolion sy’n ymgymryd â’r ddwy swyddogaeth dan sylw gysylltu â’i gilydd yn rheolaidd ac yn ffurfiol yn unol â threfniadau a ddiffiniwyd, fel y nodir ym mhennod 2. Dylid adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hyn fel y bo angen.     

 

Integreiddio a gweithio mewn partneriaeth

 

52.         Mae’r canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth a gyflwynwyd dan Ran 9 y Ddeddf yn egluro sut y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol weithio gyda’i gilydd, ynghyd â phartneriaid eraill, i gynllunio gwasanaethau gofal a chymorth integredig ar sail ranbarthol a sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu. Mae Rheoliadau’n darparu ar gyfer y byrddau partneriaeth rhanbarthol canlynol:

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r awdurdodau lleol canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Cwm Taf – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a’r awdurdodau lleol canlynol: Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Gwent – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r awdurdodau lleol canlynol: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Gorllewin Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r awdurdodau lleol canlynol: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Powys – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’r awdurdod lleol canlynol: Powys.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r awdurdodau lleol canlynol: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

 

·         Bwrdd Rhanbarthol Bae’r Gorllewin – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r awdurdodau lleol canlynol: Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

 

53.         Rhaid i’r person a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol pob awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, neu gynrychiolydd a enwebwyd, fod yn aelod o’r Bwrdd. 

 

54.         Mae angen sicrhau bod ansawdd y wybodaeth a roddir i fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn ddigonol i’w galluogi i weithredu’n effeithiol. Yn yr un modd, dylai’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod gwybodaeth gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn dangos yn glir sut y mae unrhyw swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cyflawni.

 

55.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod ei fwrdd partneriaeth rhanbarthol perthnasol yn hwyluso ac yn hyrwyddo cydweithredu er mwyn gwella canlyniadau a llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.   

 

56.         Yn ogystal, rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod y cydweithredu rhanbarthol hwn yn arwain at effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwell o safbwynt  darparu gwasanaethau gofal a chymorth i fynd i’r afael â’r anghenion o ran gofal a chymorth, ac anghenion gofalwyr o ran cymorth, a nodwyd yn yr Adroddiad Asesiad Poblogaeth. Mae gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol ran allweddol i’w chwarae o safbwynt dod â phartneriaid ynghyd i benderfynu, gan ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth, ble y bydd darparu gwasanaethau gofal a chymorth mewn modd integredig yn sicrhau’r budd mwyaf i bobl yn eu rhanbarth. 

 

Dull ataliol o ymdrin ag anghenion o ran gofal a chymorth

 

57.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod yr awdurdodau lleol a’u partneriaid yn datblygu dull strategol o atal anghenion o ran gofal a chymorth. Mae’n hanfodol nad yw gwasanaethau gofal a chymorth yn aros tan y bydd pobl mewn argyfwng cyn ymateb.

 

58.         Mae’r cod ymarfer ar gyfer Rhan 2 y Ddeddf yn egluro’r gofynion yn adrannau 14 a 15 i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiad poblogaeth o anghenion o ran gofal a chymorth; ac i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu ystod o wasanaethau ataliol. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod gwasanaethau ataliol yn cael eu darparu neu’u trefnu yn benodol er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion o ran gofal a chymorth a nodwyd gan yr asesiad poblogaeth. 

 

59.         Bydd sicrhau bod diwylliant ataliol yng nghyswllt gofal a chymorth yn cael ei ymgorffori ar draws yr awdurdod lleol, a’r adran gwasanaethau cymdeithasol yn benodol, yn gofyn am arweinyddiaeth ar draws yr awdurdod lleol gan bob prif swyddog, ac yn bennaf gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

 

Ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau

 

60.         Rhaid i awdurdodau lleol gynnwys pobl y bwriedir darparu gwasanaethau gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol ar eu cyfer, wrth ddylunio a gweithredu’r gwasanaeth dan sylw. 

 

61.         Mae’r cod ymarfer ar gyfer Rhan 2 y Ddeddf yn egluro’r gofyniad yn adran 16 sy’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo datblygiad sefydliadau dielw yn eu hardal er mwyn darparu gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys gwasanaethau ataliol. Mae’r modelau hynny’n cynnwys mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau a gaiff eu harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector. Mae’r gofyniad hwn yn ategu perthynas newydd rhwng yr awdurdod lleol a darparwyr gwasanaeth.   

 

62.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, wrth nodi ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ymateb i’r anghenion o ran gofal a chymorth a nodwyd gan yr asesiad poblogaeth, sicrhau y mabwysiedir dull cydweithredol o gynllunio, datblygu, caffael a darparu gwasanaethau.

 

63.         Caiff y gofyniad ynghylch gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn adran 17 y Ddeddf ei egluro hefyd yn y cod ymarfer ar gyfer Rhan 2. Yn ogystal, rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau effeithiolrwydd y gwasanaeth hwn o safbwynt y modd y mae’n cynorthwyo pobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant. 

 

Diogelu

 

64.         Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu’u hesgeuluso. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ddangos arweinyddiaeth er mwyn sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith yn yr awdurdod lleol a chan bartneriaid perthnasol.

 

65.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol oruchwylio’n gyson y modd y caiff systemau diogelu plant ac oedolion yn yr awdurdod lleol eu gweithredu, eu monitro a’u gwella, a rhaid iddo adrodd ynghylch hynny’n gyson wrth y cynghorwyr.

 

66.         Rhaid i drefniadau a ddiffiniwyd gyda swyddogion eraill yn yr awdurdod lleol, yn enwedig y pennaeth gwasanaethau oedolion a’r pennaeth gwasanaethau plant, fel y nodir ym mhennod 2, fod yn glir ynghylch y trefniadau dirprwyo ac adrodd sy’n ymwneud â materion diogelu. 

 

67.         Mae Canllawiau Statudol ynghylch Rhan 7 y Ddeddf yn egluro’r gofynion ar gyfer Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion. Dyma’r ardaloedd Byrddau Diogelu:

 

·         Caerdydd a’r Fro – awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg.  

·         Bwrdd Rhanbarthol Cwm Taf – awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

·         Gwent – awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru– awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

·         Gogledd Cymru awdurdodau lleol Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

·         Bae’r Gorllewin – awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

 

68.         Rhaid i Fyrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion gynnwys cynrychiolydd â statws digon uchel o bob un o’r awdurdodau lleol sydd yn ardal y Bwrdd. Mae hynny’n cynnwys y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, ymhlith pobl eraill. Yn absenoldeb y cyfarwyddwr, caniateir i swyddog arall sy’n dderbyniol i’r cyfarwyddwr ac sydd â statws digon uchel fynychu’r Bwrdd yn ei le.

 

69.         Mae pob partner yn gyfrifol i’r un graddau am arfer swyddogaethau Byrddau Diogelu; nid yw hynny’n swyddogaeth benodol ar gyfer awdurdod lleol. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol hybu dulliau effeithiol o weithio mewn partneriaeth a sicrhau bod dyletswyddau diogelu’n cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd cydweithredol gan Fyrddau Diogelu. Mae’r dyletswyddau hynny’n cynnwys rhai sy’n ymwneud â:

 

·         Chyfrannu at adolygu a datblygu polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl

 

·         Codi ymwybyddiaeth o achosion o gam-drin, esgeuluso a niweidio mewn ardal Bwrdd

 

·         Adolygu’n rheolaidd pa mor effeithiol yw mesurau diogelu lleol

 

·         Cynnal Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ohonynt

 

·         Dosbarthu gwybodaeth am arfer gorau a gwaith dysgu’n ymwneud â diogelu

 

·         Sicrhau bod ymarferwyr ar draws pob partner diogelu’n cael hyfforddiant priodol ynghylch diogelu neu’n gallu cael gafael ar hyfforddiant o’r fath

 

·         Sicrhau y ceir trefniadau effeithiol a ddeellir ac a hyrwyddir ar gyfer adrodd ynghylch plant ac oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu’u hesgeuluso.

 

Plant a’u teuluoedd

 

70.         Mae cynorthwyo teuluoedd i aros gyda’i gilydd, drwy ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a chamau atal ar draws pob gwasanaeth a ddarperir ar gyfer plant a’u teuluoedd, yn allweddol i alluogi plant i gael y canlyniadau gorau posibl. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ddarparu arweinyddiaeth a dangos strategaeth i reoli risg yn hyderus, a rhaid iddo gydweithredu’n effeithiol â’r ystod lawn o bartneriaid er mwyn gweithio gyda theuluoedd sydd ar ‘gyrion gofal’, gan wneud yn siŵr bod anghenion yn cael eu hasesu’n gywir a’u diwallu er mwyn sicrhau mai dim ond y plant iawn a gaiff eu lletya ar yr adeg iawn.   

 

71.         Mae’r cod ymarfer ar gyfer Rhan 6 y Ddeddf yn nodi fframwaith cynhwysfawr o gymorth ar gyfer y plant hynny nad yw eu teuluoedd yn gallu gofalu amdanynt mwyach ac y mae angen iddynt gael gofal gan awdurdod lleol. Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod trefniadau strategol ar waith i alluogi cydweithredu ar draws yr awdurdod lleol a gyda phartneriaid er mwyn gallu darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn effeithiol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal. Rhaid i’r trefniadau alluogi gwaith cynllunio sy’n ymdrin â phob agwedd ar lesiant y plentyn, gan gynnwys anghenion o ran iechyd a datblygiad, sefydlogrwydd a pharhauster, a chyrhaeddiad addysgol, ac sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.


Pennod 4: Datblygu’r gweithlu

 

72.         Mae gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol swyddogaeth darparu arweinyddiaeth strategol er mwyn hybu safonau uchel ar draws y gweithlu gofal a chymorth, gan gynnwys y sector preifat a’r trydydd sector. 

 

73.         Rhaid i’r cyfarwyddwr sicrhau bod cynllun gweithlu sector cyfan ar waith, sy’n nodi mesurau i sicrhau gweithlu digon mawr, medrus, diogel a phwrpasol er mwyn hyrwyddo llesiant pobl ag anghenion o ran gofal a chymorth, ac sy’n sicrhau bod y mesurau dan sylw’n cael eu gweithredu. Mae hynny’n cynnwys mesurau sy’n ymdrin â recriwtio a chadw, archwilio hanes pobl cyn eu cyflogi, cofrestru, gwobrwyo, mynd i’r afael â pherfformiad gwael, llwybrau o ran gyrfa, cymhwysedd a gofynion o ran cymwysterau, cymysgedd sgiliau, anghenion o ran hyfforddiant, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, cydymffurfio â chodau ymarfer a chyfrannu i ddata ynghylch y gweithlu.

 

74.         Dylid darparu’r arweinyddiaeth strategol hon yn rhan o’r gwaith o ddatblygu trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, fel y disgrifir ym mharagraffau 53 i 57. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfarwyddwr nodi’n glir nad yw hynny’n rhyddhau asiantaethau a darparwyr eraill o’u cyfrifoldebau unigol nhw o ran cynllunio a datblygu’r gweithlu.  

 

75.         Dylai’r cyfarwyddwr hyrwyddo dysgu cydweithredol gan y gweithlu drwy rwydweithiau a chydberthnasau â chyrff eraill. Mae hynny’n cynnwys gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant, megis cyrff addysg uwch, i sicrhau eu bod yn gallu darparu hyfforddiant perthnasol ac effeithiol a chefnogi gweithlu cymwys. 

 

76.         Un o swyddogaethau hollbwysig y cyfarwyddwr yw sicrhau bod ymddygiad cadarnhaol o ran arweinyddiaeth yn cael ei ddatblygu drwy’r gwasanaeth. Wrth weithio gyda chyrff proffesiynol, mae angen arweinyddiaeth glir i hyrwyddo diwylliant o ddysgu parhaus, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac atebolrwydd proffesiynol. Mae’r cyfarwyddwr yn esiampl i eraill a dylai hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu’r ymddygiad a’r sgiliau hyn ymysg rheolwyr gwasanaeth.

 

77.         Dylai swyddogaeth y cyfarwyddwr o safbwynt darparu arweinyddiaeth yng nghyswllt datblygu’r gweithlu yn yr awdurdod lleol gael ei chynnwys yn y trefniadau gweithio a ddiffiniwyd, fel y disgrifir ym mharagraffau 26 i 27. Yn rhan o’i swyddogaeth fel uwch-arweinydd corfforaethol, rhaid i’r cyfarwyddwr sicrhau bod gan yr awdurdod lleol bolisïau hollgyffredinol ynghylch personél a gwaith recriwtio diogel, sy’n ategu’r angen am weithlu gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod y gweithwyr cymdeithasol a gyflogir yn cael eu cofrestru gyda’r corff rheoleiddio yng Nghymru er mwyn sicrhau cysylltiad cryf rhwng cyflogwyr a rheoleiddwyr.

 

78.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gynghori cynghorwyr, partneriaid a darparwyr eraill os yw diffygion o ran y gweithlu’n rhwystro capasiti’r awdurdod lleol i gyflawni cyfrifoldebau statudol, a rhaid iddo nodi’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gywiro’r diffygion hynny.

 

79.         Yn unol â’r fframwaith strategol Mwy na geiriau, bydd cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn sicrhau bod strategaeth recriwtio a chadw effeithiol ar waith er mwyn sicrhau’r capasiti i ddarparu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gallu’r sector annibynnol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg yn cael ei ystyried hefyd pan fydd gwasanaethau’n cael eu comisiynu neu’u prynu ar gontract ganddynt.

 

Pennod 5: Adroddiad blynyddol

 

80.         Rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch y modd y mae swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn cael eu harfer. Rhaid i’r adroddiad blynyddol hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

 

81.         Rhaid i’r adroddiad blynyddol werthuso perfformiad yr awdurdod lleol o safbwynt y modd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yng nghyswllt y flwyddyn dan sylw, a rhaid iddo gynnwys y gwersi a ddysgwyd. Yn ogystal, rhaid iddo nodi amcanion ar gyfer hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

82.         Dylai’r adroddiad blynyddol gael ei gyflwyno mewn modd sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi cyrraedd y chwe safon ansawdd ar gyfer canlyniadau llesiant, a ddisgrifir yn y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyflwynwyd dan adran 145 y Ddeddf. Mae Atodiad 2 yn nodi’r safonau ansawdd sy’n gysylltiedig â’r cod ymarfer uchod.

 

83.         Rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, a nodwyd yn yr Adroddiad Asesiad Poblogaeth a luniwyd ynglŷn ag ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

 

84.         Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi gweithredu’n unol â’r gofynion perthnasol mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion dan Ran 4.

 

85.         Yn ogystal, rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi cyflawni’r gofynion perthnasol mewn cod ymarfer, er mwyn darparu’r canlynol:

 

·         Sicrwydd o safbwynt trefniadau strwythurol yn yr awdurdod lleol, sy’n galluogi gwaith llywodraethu da ac atebolrwydd cryf

·         Sicrwydd o safbwynt dulliau effeithiol o weithio mewn partneriaeth drwy fyrddau partneriaeth

·         Sicrwydd o safbwynt trefniadau diogelu

·         Gwybodaeth am berfformiad o safbwynt ymdrin â chwynion a sylwadau ac ymchwilio iddynt (fel y nodir yn y ddogfen ‘Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol’ a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014)

·         Ymateb i unrhyw arolygiadau a gynhelir yng nghyswllt swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

86.         Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr. Mwy na geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu’r nod hwnnw. Felly, yn yr adroddiad blynyddol, mae’n ofynnol i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r modd y maent yn gweithredu Mwy na geiriau.

 

87.         Mae’n bwysig bod barn defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y modd y mae’r awdurdod lleol wedi cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol. Rhaid i bobl, gan gynnwys plant, sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a rhieni plant sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth, a gofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol gael eu cynnwys yn y broses o lunio adroddiad blynyddol. Yn ogystal, dylai hynny gael ei ddangos gan y wybodaeth statudol am berfformiad y mae’n rhaid i bob awdurdod lleol ei chasglu, fel y nodir yn y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, yn flynyddol. Mae hefyd yn bwysig bod darparwyr allanol ac asiantaethau partner yn cyfrannu eu barn am ansawdd dulliau o weithio mewn partneriaeth. Rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi ymgysylltu â phobl wrth lunio’r adroddiad. Dylai’r adroddiad blynyddol adlewyrchu profiadau darparwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth.

 

88.         Mae adroddiadau blynyddol yn ffordd allweddol y gall awdurdodau lleol ddangos atebolrwydd i ddinasyddion, ac felly dylent fod yn hygyrch i bobl, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth. Dylai’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sicrhau nad yw adroddiadau blynyddol yn rhy hir a’u bod yn cael eu hysgrifennu mewn modd clir a chryno.

 

89.         Er mwyn sicrhau atebolrwydd effeithiol, rhaid i’r adroddiad blynyddol gael ei gyflwyno i’r cyngor gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.  

 

90.         Rhaid i gopi o’r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gael ei anfon at Weinidogion Cymru. Rhaid i’r adroddiad fod ar gael ar wefan yr awdurdod lleol hefyd.


 

Pennod 6: Cymwyseddau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol

 

91.         Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y gyfres lawn o gymwyseddau rhyngberthynol sy’n diffinio’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad sy’n ofynnol gan y swyddogaeth. Yn gyffredinol, mae’r cymwyseddau hyn yn gyson â Model Ymddygiad Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

 

 

Rhinweddau craidd

 

Hunanymwybyddiaeth a dysgu

·         y gallu i ddangos gweledigaeth, creadigrwydd, hyblygrwydd, blaengaredd a deallusrwydd emosiynol gan fabwysiadu agwedd eangfrydig at gyfleoedd dysgu a datblygu ar ei gyfer ei hun ac ar gyfer pobl eraill

 

·         ymrwymiad i sicrhau bod pob gwasanaeth a phob person ar draws pob sector sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn datblygu’n barhaus

 

Awydd i sicrhau canlyniadau a chydnerthedd

·         profiad sylweddol ym maes rheoli a darparu gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol

 

·         gwybodaeth am gyd-destun deddfwriaethol a strwythurol gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

·         parodrwydd i’w ddwyn ei hun i gyfrif, a dwyn pobl eraill i gyfrif, am y modd y caiff canlyniadau eu cyflawni

 

Gweithio yn y dyfodol

 

Hyrwyddo blaengaredd a newid

·         y gallu i ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol gref, a’r gallu i sicrhau ac ysbrydoli newid a gwelliant drwy fod yn ddylanwadol, bod yn agored a chyfathrebu’n effeithiol

 

·         y gallu i gymryd camau rhagweithiol i hyrwyddo a hwyluso integreiddio a chydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth

 

Cyfeiriad strategol

·         gwybodaeth a phrofiad ym maes cynllunio a datblygu’r gweithlu, a dealltwriaeth dda o bwysigrwydd gweithlu effeithiol ym mhob sector

 

·         y gallu i ddwyn pobl a gwasanaethau i gyfrif drwy sicrhau bod llif a systemau gwybodaeth, llinellau adrodd a dulliau archwilio proffesiynol ac archwilio rheolaeth ar waith

 

Cydweithio ag eraill

 

Meithrin cydweithredu a phartneriaeth

·         y gallu i hyrwyddo dulliau effeithiol o weithio mewn partneriaeth, gan gyfrannu at ddatblygu atebion cydweithredol a lunnir ar y cyd rhwng y sector cyhoeddus, y sector annibynnol a’r trydydd sector wrth gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n gwneud yn fawr o arbenigedd ac adnoddau

 

·         y gallu i wneud penderfyniadau strategol sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn datblygu gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol mewn modd cydweithredol

 

·         y gallu i fod yn hyblyg ac yn barod i addasu wrth arwain, a pharodrwydd i ddysgu oddi wrth eraill er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau

 

 

Sgìl ac ymwybyddiaeth wleidyddol

·         dealltwriaeth o weithio, a phrofiad o weithio, ar lefel uwch mewn cyd-destunau gwleidyddol cenedlaethol a lleol sy’n atebol i’r cyhoedd

 

·         gwybodaeth dda am amgylchedd gweithredol mudiadau yn y sector annibynnol a’r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau gofal a chymorth

 

Cyflawni

 

Canolbwyntio ar ddinasyddion a gwerth

·         sicrhau bod yr awdurdod lleol a phob partner yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n ceisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth

 

·         darparu arweinyddiaeth strategol er mwyn sicrhau bod pob gwasanaeth gofal a chymorth yn cael ei ddylunio a’i ddarparu mewn partneriaeth â dinasyddion a’i fod yn canolbwyntio ar alluogi dinasyddion i sicrhau eu llesiant eu hunain

 

·         dangos sgiliau ardderchog o safbwynt rheolaeth ariannol yng nghyswllt cyllideb yr awdurdod lleol a chyllidebau a rennir

 

Rhannu arweinyddiaeth

·         y gallu i ddangos arweinyddiaeth a gaiff ei thywys gan werthoedd er mwyn sicrhau ymrwymiad staff a rheolwyr ar bob lefel i gynnal safonau uchel ac arfer da, drwy eu grymuso i ddangos uchelgais a chymryd cyfrifoldeb


Atodiad 1: Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol

 

                 Y deddfiad

Natur y swyddogaethau

 

 

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933

Adrannau 34 a 34A

 

Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod.

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968

Adran 65

 

Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol.

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969

Y Ddeddf gyfan

 

Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys.

Deddf Mabwysiadu 1976

Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Deddf Iechyd Meddwl 1983

Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130

 

Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau.

 

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984

Adran 46(2) a (5)

 

Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw.

                                             

Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984

Adran 10

Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban.

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986

Adrannau 1, 2 a 5(5)

Cynrychioli ac asesu personau anabl.

Deddf Tai (Yr Alban) 1987

Adran 38(b)

Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

Deddf Plant 1989

Y Ddeddf gyfan, i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf honno, ac eithrio

(a) Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd);

(b) adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg)

 

Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn perthynas â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990

Adran 47

Asesu anghenion am wasanaethau o dan adran 117 Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Deddf Addysg 1996

Adran 322

Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999

Adrannau 1 a 2(4)

 

Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu.

Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003

Rhan 1

 

Swyddogaethau sy’n ymwneud â chleifion mewn ysbytai y mae’n debygol y bydd angen gwasanaethau gofal cymunedol arnynt er mwyn eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel.

 

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1

 

Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal.

 

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Adran 66

Adran 67

Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol.

Darparu gwasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Rhannau 1 i 3

 

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012

Adran 92

Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol.

Deddf Gofal 2014

Adrannau 50 a 52

Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes.

 

Deddf Tai (Cymru) 2014

Adran 95(2), (3) a (4); ond dim ond lle mae’r swyddogaethau hynny’n berthnasol yn rhinwedd is-adran (5)(b) yr adran honno

 

Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

Y Ddeddf hon

Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164.

 

Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2: Safonau ansawdd mewn perthynas â mesur swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

Diffiniad o lesiant o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Safon ansawdd ar gyfer awdurdodau lleol

Sicrhau hawliau

 

Hefyd yn achos oedolion: Rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd

 

 

1.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt er mwyn diffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl am eu cyflawni.

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

 

a)    Gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth clir a dealladwy ar gael i helpu pobl i fynd ati i reoli eu llesiant a gwneud penderfyniadau hyddysg.

b)    Gweithio gyda phobl, fel partneriaid, i atal yr angen am ofal a chymorth a gweithio gyda phartneriaid eraill i drefnu gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu na fydd angen i bobl gael gofal a chymorth neu mewn ffordd a fydd yn gohirio'r angen iddynt gael gofal a chymorth.

c)    Gweithio gyda phobl fel partneriaid er mwyn asesu canlyniadau llesiant personol yn amserol.

d)    Sicrhau bod penderfyniadau a wneir yn ystyried amgylchiadau unigol unigolyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

e)    Trin pobl ag urddas a pharch.

f)     Sicrhau bod gan bobl reolaeth dros y ffordd y mae eu gofal yn cael ei gynllunio a’i ddarparu.

g)    Trefnu eiriolwr annibynnol er mwyn hwyluso cyfranogiad unigolyn os dim ond gyda chymorth eiriolwr y gall yr unigolyn hwnnw oresgyn y rhwystr(au) i gyfranogi'n llawn yn y broses o nodi, adolygu a diwallu angen.

h)    Rhoi trefniadau addas ar waith ar gyfer asesu a nodi angen a chymhwysedd.

i)      Sicrhau bod gan bobl sydd â chynllun gofal a chymorth gyswllt a enwir sy'n rhannu gwybodaeth berthnasol â phartneriaid fel y gellir trosglwyddo gofal a chymorth yn ddidrafferth rhwng gwasanaethau.

j)      Sicrhau y caiff effaith gofal a chymorth ar fywydau pobl ei mesur, yn ogystal â’r graddau y cyflawnir canlyniadau personol.

k)    Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys darparwyr, er mwyn hwyluso ac arwain cynllun amlddisgyblaeth ar gyfer gofal a chymorth.

l)      Rhoi trefniadau addas ar waith er mwyn hysbysu pobl am drefniadau talu am ofal a chodi tâl.

Iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol

 

Hefyd yn achos plant: Datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol

 

 

2.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a phartneriaid perthnasol er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol pobl.

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

a)    Datblygu ar y cyd â phartneriaid a phobl ddulliau o hyrwyddo ffordd iach o fyw a helpu pobl i gynnal ffordd iach o fyw.

b)    Helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau sy'n eu galluogi i gynnal lefel dda o iechyd meddwl a llesiant emosiynol.

c)    Annog a grymuso pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, bod yn weithgar a chael budd o ofal a chymorth rhagweithiol ac ataliol.

Diogelwch rhag camdriniaeth ac esgeulustod

3.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau priodol i amddiffyn a diogelu pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt rhag camdriniaeth ac esgeulustod neu unrhyw fathau eraill o niwed.

Diffinnir camdriniaeth, esgeulustod a niwed yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

a)    Ymateb yn effeithiol i amgylchiadau sy'n newid ac adolygu'n rheolaidd i ba raddau y mae canlyniadau llesiant personol wedi'u cyflawni.

b)    Rhoi gofal a chymorth i bobl lle y bo'u hangen i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd er mwyn eu hamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod neu amddiffyn plentyn rhag niwed neu risg o niwed.

c)    Datblygu trefniadau addas ar gyfer pobl sy'n peryglu eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch pobl eraill er mwyn atal camdriniaeth ac esgeulustod.

d)    Helpu pobl i amddiffyn y bobl sy'n bwysig iddynt rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

e)    Rheoli risg mewn ffyrdd sy'n grymuso pobl i deimlo eu bod yn rheoli eu bywyd, yn gyson ag anghenion diogelu.

f)     Gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth ac esgeulustod er mwyn sicrhau y caiff pobl eu hamddiffyn rhag niwed.

Addysg, hyfforddiant a hamdden

 

 

 

 

Cyfraniad a wneir i gymdeithas

4.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol fynd ati i annog a helpu pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt i ddysgu a datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas.

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

a)    Helpu pobl i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt er mwyn cyflawni eu canlyniadau llesiant personol.

b)    Helpu pobl i sicrhau’r sgiliau a’r cyrhaeddiad addysgol y mae eu hangen arnynt er mwyn ymwneud â phethau sy'n bwysig iddynt.

c)    Annog pobl i fod yn aelodau gweithgar o'u cymunedau a helpu ei gilydd i ostwng cyfraddau ynysu cymdeithasol.

Cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol

5.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol helpu pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt i ddatblygu cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel a chynnal cydberthnasau o’r fath.

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

a)    Gweithio mewn partneriaeth â phobl i ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth ac esgeulustod a chymryd camau er mwyn sicrhau y caiff pobl eu hamddiffyn rhag niwed.

b)    Helpu pobl i gynnal y cydberthnasau sy'n bwysig iddynt, yn gyson ag anghenion diogelu.

c)    Helpu pobl i adnabod cydberthnasau anniogel a’u hamddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

d)    Ystyried barn teuluoedd, gofalwyr a chydberthnasau personol eraill pobl wrth asesu eu hanghenion o ran gofal a chymorth, os yw'n briodol.

e)    Darparu lleoliadau gofal a chymorth sefydlog a chyson i bobl.

Lles cymdeithasol ac economaidd

 

Hefyd yn achos oedolion: Cymryd rhan mewn gwaith

 

 

Addasrwydd llety

 

6.    Mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a'u helpu i wella eu llesiant economaidd, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy'n diwallu eu hanghenion.

Er mwyn gwneud hyn, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

a)    Helpu pobl i gyfranogi fel dinasyddion gweithgar, yn economaidd ac yn gymdeithasol.

b)    Helpu pobl i gael gwaith ystyrlon a pharhau i allu ei wneud.

c)    Helpu pobl i gael cyngor ariannol a chymorth gyda budd-daliadau a grantiau.

d)    Darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef ‘Mwy na geiriau’, neu mewn ieithoedd eraill o ddewis y bobl dan sylw lle y bo angen.

e)    Helpu pobl i gael llety sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu helpu i fyw'n annibynnol.